Dewch i Feddwl Mathemateg (9 i 11 oed) Gwers Babanod Jeli
PERTHNASAU LLUOSOGOL 2
Trosolwg
Mae’r gweithgaredd hwn yn edrych ar gyfraneddau gweledol, gan ddibynnu at gymariaethau gweledol o faint (cymhareb). Mae’n arwain at fesuriadau mewn niferoedd bach trwy feintioli’r rhannau. Gellir ymestyn y gweithgaredd mewn nifer o ffyrdd (gweler isod).
Pennod 1: Cymharu lluniau, canolbwyntio ar uchder rhannau
Gan ddefnyddio stori am wneud losin jeli mewn dau flas, mae’r disgyblion i ddechrau’n trin siâp sydd â phen a chorff o’r un maint. Maent yn cymharu hwnnw â llun arall lle mae’r pen ond chwarter maint y corff, gan fynd i’r afael â’r cwestiwn: ‘Beth yw’r gwahaniaeth rhyngddynt?’.
Caiff trydydd llun ei gyflwyno: ‘Pa mor wahanol yw hwn?’, gan arwain at drafodaeth am ddefnyddio blociau neu ffyn a osodir ar ochrau’r lluniau.
Pennod 2: Penderfynu rhwng tri math o gymhareb
Mae’r disgyblion yn edrych ar naw o luniau ac yn penderfynu ar gyfer pob un a yw’n un o’r tri math o gymhareb yr edrychwyd arnynt ym Mhennod 1. I’w helpu, maent yn plygu neu’n rhwygo stribedi o bapur neu’n gwneud marciau pensil gan ddefnyddio’r pen fel mesuriad. Rhaid iddynt roi rheswm am eu penderfyniadau a allai arwain at drafodaeth am gymarebau, a gofnodir ar ryw ffurf, yn ogystal â thrafodaeth am ffracsiynau.
Pennod 3: Gwneud cawr jeli – cymhareb bellach
Yma gofynnir i ddisgyblion ddyfeisio un gymhareb wahanol eto rhwng maint y pen a maint y corff. Ar gyfer cawr jeli, byddai’r pen hyd yn oed yn llai o gymharu â’r corff, efallai 1:6. Unwaith eto mae’r disgyblion yn defnyddio uchder y pen fel uned fesur i ddarganfod uchder y corff.
Estyniadau posibl ar gyfer dosbarthiadau abl neu hŷn (dewisol)
Rhoddir rhai syniadau am estyniadau i’r gweithgaredd hwn ar ddiwedd Pennod 3.
Nodau
- Mae’r disgyblion yn gweithio ar gymhariaeth weledol o faint mewn lluniau ac yn edrych ar gymarebau.
- Mae’r disgyblion yn defnyddio uned ansafonol ar gyfer mesuriadau.
- Mae’r disgyblion yn dechrau gweithio ar gymharu cymarebau a ffracsiynau.
Deunyddiau
Caiff y canlynol eu darparu
- Taflen Adnoddau A yn dangos losin jeli mewn gwahanol gymarebau.
- Taflen Adnoddau B yn dangos losin jeli mewn gwahanol feintiau.
Nid yw’r canlynol yn cael eu darparu
- Swm mawr o stribedi o bapur (tua thri fesul pâr) a ddylai fod lled dalen o bapur A4 a thua 1cm o ddyfnder er mwyn i’r dosbarth eu defnyddio fel ‘mesuriadau’. Byddai o gymorth pe gallai’r rhain fod mewn gwahanol liwiau.
- Pennau/pensiliau.
- Gludydd rwber y gellir ei dynnu i ffwrdd.
Cyn i chi ddysgu
- Llungopïwch Daflen Adnoddau A a thorri pob un yn chwe llun ar wahân. Caiff y rhain eu rhoi allan un ar y tro, yn y drefn sydd wedi’i rhifo. Bydd angen digon arnoch i bob pâr o ddisgyblion gael lluniau 1 i 3.
- Torrwch allan y stribedi 1cm o bapur lliw i’r dosbarth eu defnyddio fel ‘mesuriadau’.
- Llungopïwch Daflen Adnoddau B un i bob pâr o ddisgyblion.
Geirfa
O gymharu â, dwywaith yn fwy (neu’n llai), pedair gwaith yn fwy, hanner, chwarter, un mewn pump, un mewn tri.