Pa goed?
Pa Goeden – cynllun
Crynodeb
Rydw i newydd brynu tŷ newydd ac mae ganddo ardd hardd. Ond nid yw rhai o’r coed yn tyfu’n dda iawn. Tra byddaf yn y gwaith, rwyf wedi gofyn i arddwr roi gwrtaith planhigion arbennig iddynt. Y broblem yw nad wyf yn gwybod sut i ddisgrifio pa goed ydyn nhw dros y ffôn.
Pennod 1
Cyflwyniad
Dangoswch Daflen Adnoddau A i’r plant yn dangos gardd gyda choed a thŷ. Pwyntiwch at un o’r coed a gofynnwch i’r plant sut gallech chi esbonio i’r garddwr ar y ffôn ble mae’r goeden. Gadewch i nifer o blant roi cynnig arni. Wrth i’r plant greu disgrifiadau, cofnodwch eu hiaith ar y bwrdd yn dri grŵp (heb enwi’r grwpiau mewn gwirionedd): 1. priodoleddau’r coed, 2. maint y coed, 3. iaith leoliadol. Gofynnwch i’r plant ydyn nhw’n gallu deall pam rydych chi wedi grwpio’r geiriau fel hyn.
Trafodaeth Grŵp
Rhowch gopi o Daflen Adnoddau A i bob pâr. Mae parau o blant yn cydweithio i ddisgrifio coeden – mae un plentyn yn pigo coeden heb ddweud wrth y plentyn arall pa un yw hi, ac yn ei disgrifio i’r plentyn arall. Mae’r plant yn casglu geiriau defnyddiol i’w hychwanegu at restr y dosbarth.
Rhannu
A allwn ni ychwanegu unrhyw eiriau defnyddiol eraill at ein rhestr? Ym mha grŵp y dylen ni eu gosod?
Pennod 2
Cyflwyniad
Pa rai o’r geiriau hyn sydd eu hangen arnom mewn gwirionedd – a oes rhai geiriau sydd â’r un ystyr neu ystyr tebyg, y gallem gael gwared arnynt? E.e. coeden fach / coeden fechan. Unwaith y bydd y geiriau wedi’u cwtogi i’r lleiafswm (mwy na thebyg mawr/canolig/bach, llwyn/coeden, top/gwaelod/chwith/dde/canol) gofynnwch i’r plant feddwl am ffordd fer o’u hysgrifennu. Rydych chi eisiau i’r plant awgrymu’r syniad o godau e.e. llythrennau i gynrychioli geiriau.
Trafodaeth Grŵp
Mae grwpiau o blant yn ceisio codio’r coed ar Daflen Adnoddau A.
Rhannu
Mae’r grwpiau’n cymharu eu codau. Efallai y bydd gan rai grwpiau system ar gyfer codio e.e. mae gan bob coeden dri chôd, y codau lleoliad sy’n dod gyntaf bob amser, ac ati. Trafodwch a yw hyn yn eu helpu i ddisgrifio lleoliadau’r coed. Pam?
Pennod 3
Cyflwyniad
Dywedwch wrth y plant fod yr ardd gefn hyd yn oed yn fwy na’r ardd flaen, a bod ynddi fwy o goed. Dangoswch Daflen Adnoddau B i’r plant. A fydd ein system codio yn gweithio ar gyfer yr ardd gefn hefyd? Gadewch i’r plant roi cynnig ar ddefnyddio’r system godio i labelu eu copi eu hunain o Daflen Adnoddau B. Byddan nhw’n sylweddoli’n cyn hir fod yr ardd hon yn llawer rhy gymhleth i’r system codio syml weithio. Allwch chi feddwl am ffordd wahanol o ddisgrifio ble mae’r coed yn yr ardd gefn?
Trafodaeth Grŵp
Mae grwpiau o blant yn gweithio ar gopi gwag o Daflen Adnoddau B i ddyfeisio system godio. Mae yna nifer o bosibiliadau, gan gynnwys grwpio sypiau o goed ee llinellau rheiddiol o’r goeden ganolog, torri’r ardd yn grid dau wrth ddau, ac ati.
Rhannu
R
1
2
hannwch eich system godio gyda’r dosbarth, gan esbonio sut mae’n gweithio. Pa system godio sydd orau ym marn y dosbarth a pham?