Didoli Gwrthrychau

Gweithgarred 6- Trefnu Gwrthrychau

Trosolwg

Dyma’r ail o’r gweithgareddau sy’n edrych ar drin data, ond y cyntaf o ran siâp a gofod. Mae gofyn i ddisgyblion roi trefn ar wrthrychau yn ôl dwy nodwedd fathemategol – siâp a maint. Mae disgyblion yn symud o adnabod gwrthrychau cyfarwydd a gweld nodweddion cyffredin a gwahaniaethau (mewn siâp) i roi trefn ar wrthrychau yn 2D a 3D. Maen nhw hefyd yn ymdrin ag unrhyw amwysedd yn y gwahaniaethu hwn. Bydd y disgyblion wedyn yn rhoi trefn ar bob set yn ôl maint, gan benderfynu ar faen prawf ar gyfer trefnu a dangos eu canlyniadau mewn grid pedair cell.

Pennod un: posibiliadau o ran categoreiddio yn arwain at wahaniaethu 2D a 3D

Yn gyntaf, mae disgyblion yn chwilio am ffyrdd o enwi eitemau mewn casgliad cymysg o wrthrychau er mwyn eu trefnu i setiau amrywiol. Mae’r athro wedyn yn gofyn iddyn nhw ganolbwyntio ar siâp y gwrthrychau. Mae angen iddynt wahaniaethu rhwng siâp gwrthrych, e.e. triongl, a chynrychioliad o’r un gwrthrych. Yn olaf, maen nhw’n canolbwyntio ar y gwahaniaeth rhwng gwrthrychau 2D a 3D, ac yna’n ceisio eu casgliad eu hunain yn ôl y maen prawf hwn. Yma mae’r mater yn codi a yw cerdyn trionglog yn cael ei alw’n wrthrych 3D (oherwydd bod ganddo drwch) neu a ellir ei roi gyda llun o driongl fel gwrthrych 2D.

Pennod 2: defnyddio ail newidyn a chyflwyno’r canfyddiadau

Mae’r disgyblion nesaf yn categoreiddio eu casgliad yn ôl ail nodwedd (newidyn), hynny yw maint. Gall y math hwn o gategoreiddio naill ai fod yn seiliedig ar reddf neu ar benderfyniad penodol ynghylch terfyn maint. Gellir trafod y penderfyniad hwn mewn manylderamrywiol. Mae disgyblion wedyn yn gallu cofnodi eu casgliad o wrthrychau a lluniau fel tabl pedair cell. Mewn amser myfyrio, mae disgyblion yn meddwl am sefyllfaoedd lle byddai  tabl fel hyn (h.y. diagram Carroll) yn ddefnyddiol.

Nodau

  • Mae’r disgyblion yn rhoi trefn ar wrthrychau yn ôl priodweddau siâp mathemategol.
  • Mae disgyblion yn defnyddio ail newidyn ar gyfer rhoi trefn ar bethau h.y. maint.
  • Mae’r disgyblion yn llunio tabl pedair cell o’r canlyniadau.

Deunyddiau

Caiff y canlynol eu cyflenwi

  • Cerdyn wedi’i dorri o chwe hirsgwar,  chwe chylch a chwe thriongl.
  • Taflen adnoddau 6 yn dangos lluniau o betryalau, sgwariau, blociau, cylchoedd, peli.

Heb ei gyflenwi

  • Tua 120 o wrthrychau 3D amrywiol cyfarwydd mewn meintiau gwahanol e.e. powlenni, marblis, darnau arian, cownteri, cylchoedd, blociau hirsgwar, cerrig afreolaidd, tiwbiau, gwellt, rhwbwyr, dis, i’r athro/athrawes ddangos eu bod wedi eu rhoi mewn trefn. Dylai gynnwys siapiau plastig gwastad neu ddarnau o gardiau tebyg i’r enghreifftiau a ddarparwyd yn y pecyn.
  • Darn o bapur A3 wedi’i rannu’n ddwy gyda llinell fel ei fod yn edrych fel 2 ddalen o A4, gyda 2D a 3D wedi’u hysgrifennu fel penawdau.

Cyn i chi ddysgu

  • Ar gyfer yr athro: Paratowch gasgliad o tua 30 o wrthrychau o wahanol fathau. Mae hwn yn cynnwys rhai o’r toriadau a’r lluniau a ddarparwyd ac 20 o’r gwrthrychau y daethoch o hyd iddynt eich hun, felly gallwch fod yn hyblyg ac yn greadigol ynglŷn â’r rhain. Dylai fod gan y casgliad siapiau gwahanol ym mhob un o’r pedwar math: gwrthrychau mawr 3D, gwrthrychau 3D bach (gan gynnwys y toriadau a ddarperir), lluniau 2D mawr a lluniau 2D bach (gan gynnwys lluniau o wrthrychau 3D).
  • Ar gyfer y grwpiau o ddisgyblion: paratowch 8 casgliad o rhwng 15 ac 20 gwrthrych h.y. un casgliad ar gyfer pob grŵp o bedwar disgybl. Nid oes angen i’r rhain fod yn union yr un fath ar gyfer pob grŵp ond dylai fod ganddynt wrthrychau o’r pedwar math gwahanol (gweler uchod). Gallwch fod yn greadigol wrth ddewis gwrthrychau a lluniau. Darperir 18 cerdyn yn y pecyn. Os bydd angen mwy arnoch, defnyddiwch siapiau plastig gwastad yn y tri siâp a maint gwahanol.
  • Llungopïwch Daflen Adnoddau 6, un ar gyfer pob grŵp ac un neu ddau ar gyfer arddangosiad yr athro, a thorrwch y lluniau i’w hychwanegu at y casgliadau o wrthrychau.
  • Paratowch ddalen A3 o bapur, gyda’r penawdau, ar gyfer pob grŵp ac un ar gyfer arddangosiad yr athro.

Geirfa

Trefnu, gosod, cymharu, 2D, 3D, trwch. Geiriau siâp (ffurfiol neu anffurfiol) – petryal, hirsgwar, cylch, hirgrwn, bron yn betryal , bloc, prism, silindr, silindr gwag, crwn, llyfn, garw. Geiriau o ran maint – mawr, mwyaf, bach, maint canolig, llai na.

Pennod 2: Defnyddio ail newidyn a chyflwyno’r canfyddiadau  Rhesymau
Gwaith grŵp: rhannu’r gwrthrychau yn ôl maint yn ogystal â siâp

  • Dylai disgyblion aros yn eu grwpiau wrth eu byrddau. Cadwch eich gwrthrychau yn eu setiau 2D a 3D, ond rhowch drefn ar bob set yn ôl maint ‘mawr a bach’ hefyd. Efallai y byddwch am helpu’r disgyblion i dynnu llinell lorweddol ar y taflenni A3 fel y gallan nhw rannu’r gwrthrychau mawr a bach.
  • Ar ôl dwy funud efallai y bydd angen i chi stopio’r grwpiau a delio â mater sydd wedi codi. Mae angen i ddisgyblion gytuno neu o leiaf weld pwynt  unrhyw benderfyniad a wneir o ran rhoi trefn ar bethau.

Y Dosbarth Cyfan: Adolygu’r gwaith o drefnu

  • Trafod y drefn derfynol. Felly, pa grwpiau gwnaethoch chi eu creu? Pa enwau y gallwn ni eu rhoi i’r grwpiau? Allwch chi feddwl am unrhyw waith llythrennedd neu rifedd a allai fod yn ddefnyddiol i ddatrys pethau mewn dwy ffordd fel hyn?
  • Efallai yr hoffech chi ofyn i’r dosbarth roi’r gwrthrychau sy’n hawdd eu trefnu o’r neilltu a chael golwg arall ar y rhai roedden nhw’n eu gweld yn ddryslyd neu’n gorfod meddwl yn galed amdanyn nhw. Yna gall y drafodaeth ganolbwyntio ar yr hyn oedd yn anodd a pham a sut i ddatrys y materion hyn.

Myfyrdod dosbarth cyfan

  • Beth oedd yn ddiddorol neu’n ddefnyddiol yn y gweithgaredd hwn? Pa mor dda wnaethoch chi weithio yn eich grwpiau? Beth oedd yn ddefnyddiol pan oeddem yn gweithio fel dosbarth cyfan?
Rhoi trefn ar bethau yn ôl dau newidyn.

Metawybyddiaeth ar ddidoli dwy ffordd.

Pontio i sefyllfaoedd eraill.

Metawybyddiaeth ar y broses ddysgu.

I gael cynrychiolaeth weledol o sut mae’r cysyniadau’n cyfateb i lefelau Piagetaidd, cadwch y daflen adnoddau.

License

Gwersi PCAME a Dewch i Feddwl Mathemateg (9 i 11 oed) Copyright © by Ann Longfield, David Johnson, Jean Hindshaw, Linda Harvey, Jeremy Hodgen, Michael Shayer, Mundher Adhami, Rosemary Hafeez, Matt Davidson, Sally Dubben, Lynda Maple, and Sarah Seleznyov. All Rights Reserved.

Share This Book