Dewch i Feddwl Mathemateg (8 i 9 oed) Gwers 5 Cannoedd a Miloedd

Cyflwyniad

Trosolwg
Yn y gweithgaredd amcangyfrif hwn, mae plant yn defnyddio amrywiaeth o strategaethau i amcangyfrif nifer fawr o wrthrychau. Byddan nhw'n trafod yr hyn sy'n gwneud amcangyfrif 'da' neu 'wael'.
Pennod 1
Mae plant yn ei chael hi'n anodd cyfrif nifer y gwrthrychau mewn ffotograff. Maen nhw'n cynhyrchu nifer o strategaethau amcangyfrif. Maen nhw'n gweithio fel grŵp i amcangyfrif nifer y gwrthrychau, gan ddefnyddio lluosi. Byddan nhw'n trafod y strategaethau a ddefnyddiwyd ganddyn nhw a'r anawsterau a gafwyd.
Pennod 2
Bydd y plant yn trafod strategaethau amcangyfrif ar gyfer nifer fawr o wrthrychau. Byddan nhw'n defnyddio dwylo, cwpanau a bag i amcangyfrif (unwaith eto gan ddefnyddio lluosi), ac wedyn cyfrif nifer y gwrthrychau. Yn olaf, mae'n nhw'n trafod pa mor llwyddiannus oedd eu hamcangyfrifon.
Adfyfyrio
Mae'r plant yn trafod yr hyn sy'n gwneud amcangyfrif 'da' a 'gwael'.
Nodau
  • Mae gan blant ystod o strategaethau ar gyfer amcangyfrif nifer fawr o wrthrychau
  • Gall plant esbonio beth sy'n gwneud amcangyfrif 'da' neu 'wael'
  • Deunyddiau
    Wedi'u cyflenwi

  • Taflen Adnoddau A yn dangos detholiad o ffotograffau o wrthrychau lluosog
  • aflen Adnoddau B yn dangos tabl i gofnodi a gwerthuso amcangyfrifon
  • Heb eu Cyflenwi

  • Ble mae Wali? gan Martin Handford
  • hai pacedi sy'n cynnwys gwahanol fathau o siapiau pasta a/neu gorbys sych mwy e.e. ffa Ffrengig, gwygbys
  • Cyfrifianellau (dewisol)
  • Ar gyfer pob grŵp:

  • Cwpan plastig bach
  • Cwpan plastig mawr
  • Bag plastig bach ee. bag rhewgell
  • Set o hambyrddau neu gynwysyddion ar gyfer cyfrif
  • Cyn i chi ddysgu
    Llungopïo Taflenni adnoddau A a B, un i bob grŵp
    Geirfa
    Amcangyfrif, cyfrif, tua, llawer, ychydig, gwahaniaeth, lluosi, rhannu, goramcangyfrif, tanamcangyfrif

    License

    Gwersi PCAME a Dewch i Feddwl Mathemateg (9 i 11 oed) Copyright © by Ann Longfield, David Johnson, Jean Hindshaw, Linda Harvey, Jeremy Hodgen, Michael Shayer, Mundher Adhami, Rosemary Hafeez, Matt Davidson, Sally Dubben, Lynda Maple, and Sarah Seleznyov. All Rights Reserved.

    Share This Book