Gwersi PCAME a Dewch i Feddwl Mathemateg (9 i 11 oed) C. Petryal Mwyaf
Cyflwyniad |
---|
Gweithgaredd yw hwn i ddiffinio priodweddau petryalau, i wahaniaethu rhwng perimedr ac arwynebedd, ac i archwilio'r gwahanol ddulliau o ddod o hyd iddynt. Mae’r plant yn symud ymlaen o gymariaethau greddfol o betryalau i ffyrdd o fesur y perimedr, yna i ymdrin ag arwynebedd. Maen nhw'n creu petryalau gyda'r un arwynebedd ond gwahanol berimedrau. Maen nhw hefyd yn edrych ar y berthynas rhwng hyd a lled petryalau lle mae’r arwynebedd neu’r perimedr yn gyson. |
Mae dau bennod i'r gweithgaredd hwn. Mae pob pennod yn cynnwys cyflwyniad, gwaith pâr neu grŵp a rhannu fel dosbarth cyfan. Mae'n rhaid i'r sesiwn orffen gyda myfyrdod dosbarth cyfan, waeth pa mor bell mae'r dosbarth wedi mynd. |
Pennod 1: O reddf i fesuriadau |
Daw'r plant i wybod am briodweddau angenrheidiol a digonol petryal trwy wrthenghreifftiau y mae’r athro’n eu creu o ddehongliadau llythrennol o ddisgrifiadau plant. Mae plant wedyn yn cymharu petryalau yn reddfol ac yn diffinio arwynebedd a pherimedr cyn eu mesur mewn amrywiaeth o ffyrdd. Maen nhw'n cyfrif teils sgwâr unigol go iawn a dychmygol ac yn ychwanegu rhesi a cholofnau dro ar ôl tro. Maen nhw'n defnyddio'r broses hon i ddeall y fformiwla lluosi ar gyfer arwynebedd, gan ddefnyddio hyd a lled. Maent nhw'n edrych ar gywerthedd fformiwlâu ar gyfer arwynebedd (ac ar gyfer perimedr). |
Pennod 2: Ydyn nhw'n perthyn mewn gwirionedd? |
Mae'r plant yn llunio gwahanol betryalau gyda'r un arwynebedd ac yn cydnabod bod ganddyn nhw wahanol berimedrau. Maent nhw'n edrych ar batrwm yr hyd a'r lled sy'n arwain at y berthynas lluosi gwrthdro rhyngddynt ac yn ateb y cwestiwn: A fyddai arwynebedd mwy yn golygu perimedr mwy? |
Adfyfyrio: Diffiniad mathemategol a pherthnasoedd mathemategol |
Mae plant yn cydnabod pwysigrwydd diffiniad manwl gywir ar gyfer y petryal ac achos arbennig y sgwâr, sy'n dal i fod yn betryal. Wrth edrych ar arwynebedd a pherimedr, mae plant yn gwneud sylwadau ar y berthynas rhwng arwynebedd a hyd a lled petryalau. |
CYN I CHI DDYSGU |
Ceisiwch osgoi brysio camau cychwynnol y wers. Barnwch lwyddiant y wers wrth gyfoeth y syniadau a geir gan y plant, gan gynnwys camsyniadau. Gwnewch yn siŵr fod y plant yn cyfrif hydoedd yn hytrach na sgwariau i gyfrifo perimedr yn gywir. |
![]() |