Dewch i Feddwl Mathemateg (8 i 9 oed) Gwers 5 Cannoedd a Miloedd

Cynllun gwers

Blwyddyn 4 –Cannoedd a Miloedd
Haniaethol
Edrychwch ar dudalen o Ble mae Wali? gan Martin Handford lle mae llawer o bobl eraill. Trafodwch pam ei bod hi'n anodd dod o hyd i Wali ar y dudalen – gofynnwch i'r plant ddyfalu faint o bobl sydd ar y dudalen. Sut maen nhw'n gweithio allan beth i'w ddyfalu?
Pennod 1
Cyflwyniad
Rhowch lun i bob pâr o blant o Daflen Adnoddau A.
Gofynnwch iddyn nhw gyfrif faint ee. coed, pobl, tai. Bydd y plant yn sylweddoli'n fuan bod hyn yn anodd iawn. Gofynnwch iddyn nhw pam mae'r dasg hon yn anodd ee. ni ellir gweld rhai o'r gwrthrychau'n llawn, mae gormod ohonyn nhw, maen nhw wedi'u gwasgaru mewn ffordd sy'n ei gwneud yn anodd cyfrif, ac ati. Gofynnwch iddyn nhw a ydyn nhw'n meddwl y byddai'n bosib amcangyfrif faint sydd yna.
Trafodaeth Grŵp
Gweithiwch mewn grwpiau gan ddefnyddio copïau o luniau o Daflen Adnoddau A. Allwch chi amcangyfrif faint o wrthrychau sydd yn y llun? Os na allan nhw amcangyfrif, dylen nhw labelu'r ffotograff fel 'amhosibl ei amcangyfrif’; os gallan nhw, dylen nhw ddangos sut y maen nhw wedi gwneud yr amcangyfrif.
Dylai plant ddechrau defnyddio strategaethau ar gyfer amcangyfrif, megis:
cyfrif un rhes/colofn a lluosi,
rhannu'r llun yn adrannau, cyfrif un a lluosi
Efallai y bydd rhai plant am ddefnyddio cyfrifiannell.
Rhannu
Grŵp i rannu eu hamcangyfrifon a'u strategaethau ar gyfer amcangyfrif gyda'r dosbarth.
A oes gan bob un ohonom amcangyfrifon tebyg ar gyfer yr un lluniau?
Pa luniau oedd yn hawdd eu hamcangyfrif? Pam?
Pa un oedd yr anoddaf? Pam?
Trafod lluniau sydd â haenau cudd o wrthrychau?
ee. rhesi cudd o goed na ellir eu gweld – ni wyddom faint o resi sydd yno?
Trafodwch luniau sy'n cynnwys cyfrifiadau mwy mathemategol ee. stadiwm pêl-droed

Pennod 2
Cyflwyniad
Dangoswch rai pacedi i'r plant sy'n cynnwys gwahanol fathau o siapiau pasta a/neu gorbys sych mwy ee. ffa Ffrengig, gwygbys
Gofynnwch iddyn nhw drafod sut y gallen nhw amcangyfrif faint o bob gwrthrych sydd ym mhob pecyn, heb ei agor.
Bydd plant yn awgrymu:
- cyfrif yr haen uchaf a lluosi â nifer yr haenau maen nhw'n meddwl sydd
- rhannu'r pecyn yn fras yn adrannau ee. chwarteri ac amcangyfrif faint maen nhw'n meddwl sydd mewn chwarter
Gofynnwch iddyn nhw sut y gallen nhw ddatrys y broblem pe bydden nhw'n gallu agor y pecyn.
Dylai'r plant awgrymu defnyddio cynhwysydd llai ee. cwpan neu law a lluosi â faint o gwpanau/llond llaw maen nhw'n meddwl y mae'r pecyn yn eu cynnwys
Trafodaeth Grŵp
Gweithio mewn grwpiau bach. Agorwch y pacedi a defnyddiwch amrywiaeth o offer i gwblhau'r tabl ar Daflen Adnoddau B.
Er mwyn cyfrif union nifer y gwrthrychau yn y pecyn, bydd angen annog y plant i weithio fel tîm, gan rannu'r gwrthrychau a rhoi eu cyfansymiau at ei gilydd. Bydd rhannu'r bag yn set o gynwysyddion llai ar gyfer pob grŵp yn helpu gyda'r broses hon. Efallai y bydd rhai plant am ddefnyddio cyfrifiannell.
Mae angen i'r plant werthuso a oedd pob amcangyfrif yn dda neu'n wael, gan roi rheswm
Rhannu
Pa fathau o wrthrychau oedd yn haws/anoddach i'w hamcangyfrif? Pam?
Pa offer oedd fwyaf defnyddiol ar gyfer y dasg hon a pham?

Adfyfyrio
Trafodwch sut y penderfynodd y plant a oedd eu hamcangyfrif yn dda neu'n wael. Os yw nifer y gwrthrychau yn fwy, ee. siapiau pasta llai, gall y gwahaniaeth rhwng yr amcangyfrif a'r mesur gwirioneddol fod yn eithaf mawr, heb olygu bod yr amcangyfrif yn 'wael’; ond os oes nifer llai o wrthrychau, gall gwahaniaeth cymharol fach rhwng yr amcangyfrif a'r cyfrif olygu bod yr amcangyfrif yn 'wael’.

License

Gwersi PCAME a Dewch i Feddwl Mathemateg (9 i 11 oed) Copyright © by Ann Longfield, David Johnson, Jean Hindshaw, Linda Harvey, Jeremy Hodgen, Michael Shayer, Mundher Adhami, Rosemary Hafeez, Matt Davidson, Sally Dubben, Lynda Maple, and Sarah Seleznyov. All Rights Reserved.

Share This Book