Dewch i Feddwl Mathemateg (9 i 11 oed) Gwers H. Cwpanau a Soseri

Nodau
  • Llunio perthynas cylch gan ddefnyddio greddf a phrofiad uniongyrchol.
  • Trin perthnasoedd lluosol yn seiliedig ar gymhareb rhif nad yw'n gyfan.
  • Adnoddau: Geirfa:
  • Tri chylch o feintiau ychydig yn wahanol wedi'u llunio ar A3, ac wedi'u harddangos o amgylch yr ystafell
  • Gwrthrychau crwn mawr a bach (platiau a chwpanau papur, un neu ragor o gylchynau mawr, er enghraifft)
  • darnau o linyn 50cm a 100cm o hyd

  • Siswrn
  • Marcwyr lliw
  • Cwmpawdau
  • cylch, silindr, cylchol, trawsdoriad, diamedr, radiws, cylchedd, cord, cymhareb, perthynas gyson, perimedr, polygon rheolaidd, polygon deuddeg ochr
    Trefnu:
  • Parau agos o ran gallu, gyda'r parau mewn grwpiau gallu cymysg wrth bob bwrdd.
  • aratoi i'r Dosbarth Cyfan: (tua 10)
    Gosodwch neu lluniwch dri chylch o feintiau ychydig yn wahanol (diamedr o tua 30 centimetr) o amgylch y dosbarth, wedi'u labelu ag A, B, C: un y tu mewn i ymyl fach, un heb ymyl, un y tu mewn i betryal. Pa un yw'r mwyaf?Sut gallwch chi wneud yn siŵr? Ysgrifennwch ychydig awgrymiadau ar y bwrdd (eu holrhain; eu dal yn erbyn ei gilydd; eu mesur). Beth ydyn ni'n ei gymharu neu'n ei fesur mewn gwirionedd? Beth yw elfennau'r cylch rydych chi'n eu gwybod?Sut rydyn ni'n gwybod ble mae'r diamedr? Lluniwch gord gan egluro mai'r diamedr yw lle mae'r cord ar ei hiraf posibl, a'i fod yn mynd trwy'r canol i unrhyw gyfeiriad.Sut mae cymharu pibellau a silindrau? Os ydyn ni'n gwybod y cylchedd a allwn ni ddarganfod y diamedr, ac i'r gwrthwyneb? A yw hyn bob amser yr un fath?Dangoswch gwpan a dau ddarn o linyn. Torrwch un darn o linyn ar gyfer y cylchedd ac un ar gyfer y diamedr.
    Gwaith Pâr: (tua 10 munud)
    Rhowch dri gwrthrych crwn o wahanol feintiau, darnau o linyn a siswrn i bob grŵp. Yna maen nhw'n mynd ati i ymchwilio ac egluro eu canfyddiadau mewn parau ac yna mewn grwpiau.
    Sawl gwaith bydd y diamedr yn mynd o amgylch y cylchedd? Faint o ddiamedrau yw'r cylchedd? Os yw'n fwy na 3 gwaith, a yw bron yn 3 a ½, neu bron yn 3 a ¼?Nid oes angen cywirdeb. Helpwch blant gydag unrhyw anawsterau ymarferol gan ddefnyddio llinyn.
    Rhannu gyda'r osbarth: (tua 15 munud)
    Gofynnwch i sawl pâr ddangos y berthynas rhwng y cylchedd a'r diamedr gyda chylch bach, canolig a mawr, gan ddefnyddio llinyn.
    Ar bob cylch, marciwch lle mae'r terfyn 'tair gwaith', a lle mae'r 'tamaid' yn dechrau. Defnyddiwch farciwr i liwio'r 'tamaid'. Beth ydych chi'n ei sylwi am y gwahanol 'dameidiau'. Pam maen nhw'n wahanol hydoedd?
    Gofynnwch i'r plant roi cynnig ar yr un peth gyda'u cylchoedd. Dylent ddisgrifio sut mae'r 'tamaid' yn cael ei gynnwys yn y berthynas rhwng y cylchedd a'r diamedr.
    Canolbwyntiwch ar fesur y berthynas drwy siarad am 3 a ¼, a 3 a
    1/8 , a ffyrdd o ysgrifennu'r gymhareb mewn degolion.
    Gwaith Pâr: (tua 15 munud)
    Cyn i chi ddosbarthu'r daflen nodiadau, lluniwch gylch ar y bwrdd, a dangos sut mae'r sgwâr o'i amgylch a'r hecsagon a'r cylch y tu mewn iddo yn cael eu llunio.
    Trafodwch y ffaith fod perimedr y sgwâr bedair gwaith diamedr y cylch, a bod diamedr yr hecsagon dair gwaith diamedr y cylch. Beth am y triongl?
    Dosbarthwch y daflen nodiadau. Dylai plant ddefnyddio un o'r tri chylch a gwirio'r berthynas resymegol gan ddefnyddio mesuriadau bras yn unig.
    Brasluniwch bolygon rheolaidd â pherimedr yn agosach o ran hyd at gylchedd y cylch na pherimedr yr hecsagon. Sut gallwch chi ddangos ei fod yn agosach? Faint yn agosach yw e? Fel arall, defnyddiwch hanner ochr yr hecsagon a gweld beth sy'n digwydd os ydynt yn defnyddio hwn i 'gamu o gwmpas y cylch' gyda'r cwmpawd
    Rhannu gyda'r dosbarth: (tua 15 munu)
    Mae’r plant yn siarad gyda'i gilydd am bolygonau 8-, 12-, a 48- ochr.
    Beth sy'n digwydd pan fyddwn ni'n cynyddu nifer yr ochrau? A all y perimedr fod yn fwy na'r cylchedd? Beth allwch chi ei ddweud am y sgwâr?
    Gofynnwch i'r plant siarad, mewn iaith anffurfiol, am y ffaith mai'r cylch yw'r hyn sy'n cyfyngu polygon rheolaidd â nifer anfeidraidd o ochrau. Gallant hefyd gynnwys y syniad bod y cylchedd wedi'i 'rwymo' gan berimedr yr hecsagon a'r sgwâr, hynny yw, mae rhwng 3 gwaith a 4 gwaith hyd y diamedr.
    Beth wnaethon ni yn y wers hon? Beth oedd yn wahanol yn y ddau beth wnaethon ni?

    License

    Gwersi PCAME a Dewch i Feddwl Mathemateg (9 i 11 oed) Copyright © by Ann Longfield, David Johnson, Jean Hindshaw, Linda Harvey, Jeremy Hodgen, Michael Shayer, Mundher Adhami, Rosemary Hafeez, Matt Davidson, Sally Dubben, Lynda Maple, and Sarah Seleznyov. All Rights Reserved.

    Share This Book