Gwersi PCAME a Dewch i Feddwl Mathemateg (9 i 11 oed) C. Petryal Mwyaf
Aims |
Ordering a range of rectangles by estimating their area and perimeter.
Reflecting on the different methods of finding areas and perimeter.
|
Resources |
Vocabulary |
Transparent square overlays
cm squared paper
Half cm squared paper
mm squared paper
Rulers available but not within reach at start of lesson
Largest Rectangle 1 and 2 notesheets – one per person
|
bigger, smaller, wider, taller,
longer, rectangle right-angle, 90
degrees, straight, curved, vertical,
horizontal, square, equal edge,
perimeter (distance around edge),
area (space inside), centimetre, millimetre
|
Organisation |
Near achievement pairing on mixed tables
|
Paratoi Dosbarth Cyfan: (tua 10-15 munud)
|
Disgrifiwch betryal. Pan roddir rhesymau anghyflawn, rhowch yr ochr arall a
thynnwch lun gwrthenghreifftiau ar y bwrdd. Er enghraifft, os yw plentyn yn cynnig ‘mae ganddo bedair ochr’,
tynnwch lun pedrochr afreolaidd.
A oes gwahaniaeth pa ffordd y mae'r petryal ar bapur? Pam? Beth yw petryal
ar ogwydd?
A yw sgwâr yn betryal? Pam? Rhannwch daflenni nodiadau’r Petryal Mwyaf.
Pa un yw'r petryal mwyaf yn eich barn chi? Sut gallwn ni ddod i wybod? A oes
ffyrdd eraill?
Ydyn ni'n meddwl am arwynebedd neu berimedr?
Beth yw'r gwahaniaeth?
Pa unedau maent yn cael eu mesur ynddynt?
|
Gwaith pâr: (tua 10 munud) |
Amcangyfrifwch arwynebedd a pherimedr, mewn cm2 (centimetrau sgwâr) a cm, o bob
petryal ar Petryal Mwyaf 1 a'i gofnodi ar Petryal Mwyaf 2 . Dylai plant
wneud marciau o amgylch yr ymyl a thynnu llun sgwariau oddi mewn.
esurwch arwynebedd a pherimedr pob petryal, gan ddefnyddio troshaenau
sgwâr tryloyw. Peidiwch â gadael i'r plant ddefnyddio pren mesur
Sut mae hyn yn cymharu â'r amcangyfrif a gyda'r dyfalu gwreiddiol?
Ysgrifennwch ar y bwrdd A oes ffordd gyflym o gyfrifo arwynebedd a pherimedr
petryal?
|
Rhannu fel Dosbarth: (tua 10-15 munud) |
Sut oeddech chi'n gwybod eich bod chi wedi dod o hyd i'r holl betryalau?
A yw 6x4 yr un peth â 4x6?
Beth os gallech chi ddefnyddio'r papur sgwariau hanner cm neu mm?
Hanerwch y lled lleiaf. Beth sy'n digwydd i'r hyd, os yw'r arwynebedd yn dal i fod yn 24 cm2?
Beth am tua 20cm2?
Cymerwch un rhan o ddeg o'r lled lleiaf. Beth sy'n digwydd i'r hyd?
Beth ydych chi'n meddwl fydd yn digwydd os ydym yn parhau i wneud y lled yn llai ac yn llai?
Ydy perimedr mwy yn golygu arwynebedd mwy?
|
Gwaith pâr: (tua 10 munud) |
Tynnwch lun cymaint o betryalau ag y gallwch gydag arwynebedd o 24cm2. Gallwch ddefnyddio pren mesur.
Ydych chi wedi dod o hyd iddyn nhw i gyd? Sut ydych yn gwybod?
Rhowch nhw mewn trefn. A oes rhai ar goll?
Cofnodwch y perimedrau. Gwnewch yn siŵr fod papur sgwariau hanner cm a mm ar gael
|
|
|
|
|