Gwersi PCAME a Dewch i Feddwl Mathemateg (9 i 11 oed) A. Cynghrair Chwaraeon
Nodau |
Cydnabod bod modd cofnodi gwybodaeth yn systematig mewn amrywiaeth o ffyrdd.
Cyffredinoli'r rheol ar gyfer unrhyw nifer o ysgolion, i'w defnyddio wrth ragfynegi.
|
Adnoddau |
Geirfa |
Pennau ffelt trwchus
Taflen nodiadau Cynghrair Chwaraeon – un yr un
Dalennau mawr o bapur (A2 neu fwy)
|
gartref, adio ailadroddol, llawer o, wedi'i luosi, symbol, systematig, mynegiad, algebra, gwirio data ailadroddol neu ddata sydd ar goll
|
Trefnu |
Grwpiau bach agos o ran gallu
|
Paratoi i'r Dosbarth Cyfan: (tua 10 munud) |
Cyffredinoli'r rheol ar gyfer unrhyw nifer o ysgolion, i'w defnyddio wrth ragfynegi.
Pa fath o gemau tîm ydyn ni'n eu chwarae yn yr ysgol? Pêl-droed, pêl-rwyd, rownderi, criced.
Mae gennym Gynghrair Bêl-droed Ysgolion lleol. Pe na bai ond tair ysgol yn y Gynghrair, sut allen ni ddarganfod faint o gemau fyddai angen eu chwarae? Cofiwch fod pob ysgol yn chwarae yn erbyn pob ysgol arall gartref.
Pa dair ysgol wnawn ni eu dewis? Mae'r plant yn awgrymu enwau ysgolion - nodwch dair ysgol ar y bwrdd.
Bydd yn anodd trefnu'r cyfrif a rhaid i ni gynnwys pob gêm.
Oes gan unrhyw un awgrym ynghylch cofnodi hyn? Gofynnwch i blant ddod i ddangos dulliau ar y bwrdd.
Oes unrhyw ddulliau eraill y gallen ni eu defnyddio? Awgrymwch rai os oes angen.
|
Gwaith grŵp: (tua 15 munud) |
Ceisiwch gyfrifo nifer y gemau a fydd yn cael eu chwarae mewn cynghrair sy'n cynnwys pedair ysgol. Gofalwch eich bod wedi cynnwys pob gêm ac nad ydych chi wedi cyfrif rhai ddwywaith
Defnyddiwch ddulliau gwahanol o gofnodi; os yw un dull yn rhy gymhleth, rhowch gynnig ar un arall.
Rhagfynegwch nifer y gemau ar gyfer pum ysgol a nodwch sut y gwnaethoch eich rhagfynegiad. Yna ewch ati i wirio hyn gan ddefnyddio eich dull systematig.
|
Rhannu gyda'r dosbarth: (tua 15 munud) |
Gofynnwch am adborth gan grwpiau o blant, i ddangos dulliau gwahanol o gofnodi'r gemau. Gellir arddangos dalennau ar y wal.
Trafodwch yn fras fanteision ac anfanteision pob un, megis cyflymder, eglurder, effeithlonrwydd. Canolbwyntiwch ar ddau neu dri dull gwahanol.
Beth sy'n debyg? Sawl grŵp? Faint ym mhob grŵp?
Cofnodi cyfanswm nifer y gemau ar gyfer pedair ysgol neu bum ysgol ar y bwrdd.
Sawl gêm ar gyfer 10 ysgol? Sut gallen ni gyfrifo hyn?
Beth petai'r holl ysgolion lleol yn y gynghrair?
Beth petai n o ysgolion yn y gynghrair? Eglurwch sut rydyn ni'n defnyddio 'n'.
|
Gwaith grŵp: (tua 10 munud) |
Crëwch straeon ar gyfer mynegiadau algebraidd, er enghraifft n – 3: dosbarth o n o blant gyda thri yn absennol, neu n o losin yn y tiwb yna rwy'n bwyta tair ohonynt.
Esboniwch nad ydyn ni'n gwybod faint o losin sydd ar ôl (n – 3) oni bai ein bod yn gwybod faint oedd gennym i ddechrau (n).
Dosbarthwch y daflen nodiadau a'i thrafod. Crëwch straeon ar gyfer y problemau ar y daflen nodiadau.
|
Rhannu gyda'r dosbarth: (tua 10 munud) |
Rhannwch o leiaf ddwy stori algebraidd ar gyfer pob cwestiwn.
Sut allwn ni gyfrifo'r gwerth rhifiadol ar gyfer y mynegiad? Mae hyn yn dibynnu ar y gwerth rydyn ni'n ei roi i bob llythyren. Atgoffwch y plant o enghraifft y losin: allwch chi ddim gwybod faint sydd ar ôl nes eich bod chi'n gwybod faint oedd gennych i ddechrau.
|
|
|