Gwersi PCAME a Dewch i Feddwl Mathemateg (9 i 11 oed) A. Cynghrair Chwaraeon
Cyflwyniad |
---|
Gweithgaredd ynghylch cofnodi gwybodaeth yn systematig yng nghyswllt dangos pa ysgolion sy'n chwarae yn erbyn ei gilydd mewn cynghrair chwaraeon. Mae'r plant yn cydnabod bod y rhan fwyaf o ddulliau'n cynnwys grwpio, ac yn archwilio nifer y grwpiau a maint pob grŵp. Maen nhw'n dysgu bod modd defnyddio lluosi fel llwybr byr ar gyfer adio ailadroddol, sydd ei hun yn llwybr byr ar gyfer 'cyfrif popeth’. Mae hyn wedyn yn cael ei ymestyn i'r syniad o ddefnyddio symbol a mynegiadau fel rhifau cyffredin. |
Mae dwy bennod i'r gweithgaredd hwn. Mae pob pennod yn cynnwys cyflwyniad, gwaith pâr neu grŵp a rhannu gyda'r dosbarth cyfan. Rhaid i'r sesiwn orffen gyda chyfnod myfyrio i'r dosbarth cyfan, waeth pa mor bell mae'r dosbarth wedi cyrraedd. |
Pennod 1: Cyfrif gemau tîm |
Mae'r plant yn enwi tair ysgol sydd i chwarae gêm, fel tennis neu rygbi. Rhaid i bob ysgol chwarae yn erbyn ei gilydd gartref. Mae'r plant yn awgrymu ffyrdd o gyfrifo cyfanswm nifer y gemau drwy gyfrif mewn rhestrau gan ddefnyddio byrfoddau neu ddiagramau. Yna maen nhw'n ychwanegu un neu fwy o ysgolion ac yn gweithio ar yr un cyfrifiadau, gan geisio bod yn systematig o ran eu dulliau. Ar ôl hynny, mae'r plant yn rhannu eu dulliau ac yn asesu effeithiolrwydd gwahanol gynrychioliadau. Ar y bwrdd maen nhw'n edrych ar ddetholiad o ddulliau ar gyfer pedair neu bum ysgol i ddarganfod nodwedd gyffredin grwpio. Mae'r plant yn siarad am y ddau newidyn mewn unrhyw sefyllfa: nifer y grwpiau (ysgolion) a nifer y gemau ym mhob grŵp ('ysgolion eraill' neu 'gemau gartref’). Maen nhw'n cyffredinoli i niferoedd mwy ac i 'unrhyw rif', gan ddefnyddio symbolau. |
Pennod 2: Yr un mynegiad – ystyr gwahanol |
Mae'r plant yn ymdrin â mynegiad fel (n - 3) mewn dau gyd-destun, wedyn maen nhw'n gweithio i greu eu straeon eu hunain i gyd-fynd â mynegiadau eraill sy'n cael eu rhoi yn y daflen nodiadau. |
Myfyrio |
Mae'r plant yn edrych yn ôl ar yr hyn maen nhw wedi'i wneud yn y gweithgaredd. Maen nhw'n rhannu eu straeon, ac yn trafod y ffaith y gallai mynegiad fod ag unrhyw werth rhifol yn dibynnu ar y gwerth sy'n cael ei roi i'r symbol ynddo. |
CYN I CHI DDYSGU |
Cofiwch nad nod y gweithgaredd yw i'r plant i gyd ddefnyddio algebra neu hyd yn oed lluosi. Y nod yw bod plant yn deall y dull maen nhw wedi'i ddefnyddio ac o bosib yn defnyddio dull sydd ychydig yn fwy datblygedig na'r un roedden nhw wedi dechrau ag ef. |