Gwersi PCAME a Dewch i Feddwl Mathemateg (9 i 11 oed) A. Cynghrair Chwaraeon
Mewn algebra, mae llythyren yn golygu rhif. Gallwn ni alw’r llythyren hon yn ‘gludwr rhif’.
Pan fyddwn ni’n cyfuno llythrennau a rhifau byddwn ni’n cael ‘mynegiad’. Er enghraifft, mae n + 5 yn fynegiad.
Mae mynegiad hefyd yn ‘gludwr rhif’, yn dibynnu ar y rhif yn y symbol, mae ganddo werth.
- Mae n o ddisgyblion mewn clwb. Beth all n + 5 ei olygu? Crëwch stori.
- Dylai fod p o chwaraewyr mewn tîm. Beth all p – 3 ei olygu?
- Roedd n o geffylau yn y cae. Nawr mae n + 2. Beth ddigwyddodd?
- Roedd x o boteli llaeth yn sefyll ar wal. Nawr mae x – 1 o boteli llaeth. Beth ddigwyddodd?
- Roeddech chi wedi cynilo b o bunnoedd. Daeth eich modryb i mewn ac mae gennych chi 2 x b o bunnoedd erbyn hyn. Beth ddigwyddodd?
- Prynodd yr ysgol n o fyrddau ar gyfer y neuadd fwyta.
Mae’n rhaid i’r ysgol brynu pedair hosan blastig ar gyfer coesau pob bwrdd, er mwyn gwarchod y llawr. Yna mae’n rhaid i’r ysgol brynu pedair cadair ar gyfer pob bwrdd.
Beth all 4 x n ei olygu? (neu n x 4?)
- r yw’r arian loteri a enillwyd gan dri o bobl. Faint fydd pob un yn ei gael?